Home Newyddion Lle Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf Eisteddfod yr Urdd Maldwyn

Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf Eisteddfod yr Urdd Maldwyn

0
442
Advertisement

Ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 (27 Mai) cyhoeddwyd mai Wanesa Kazmierowska o Abertawe yw enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Saffron Lewis o Sir Benfro yw enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg.

Noddir y seremoni eleni gan Ymddiriedolaeth Pantyfedwen. Cyflwynir Ysgoloriaeth Artist Ifanc, gwerth £2,000 drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18–25 oed. A chyflwynir y Fedal Gelf ar gyfer y gwaith mwyaf addawol o blith enillwyr cenedlaethol holl gynnyrch adran blwyddyn 10–19 oed.

Mae Wanesa yn 19 oed ac yn astudio ar gyfer Diploma Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Gŵyr yn Abertawe. Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, mae hi wedi byw yn Abertawe ers dros 14 mlynedd. Mae ganddi le wedi’i gadarnhau yn UAL (University of the Arts London) y flwyddyn nesaf i astudio Darlunio a Chyfryngau Gweledol ac mae’n gobeithio cymhwyso fel artist/darlunydd graffeg yn y dyfodol.

Advertisement
Wanesa Kazmierowska, Enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc, Eisteddfod yr Urdd 2024 Young Artist Scholarship Winner

Meddai Wanesa: “Rwy’n mwynhau arbrofi gyda chyfryngau ac arddulliau artistig amrywiol i ehangu fy sgiliau, yn benodol gwneud printiau, celf ddigidol a phaentio gouache.”

Mae ei chelf wedi cael ei arddangos mewn tair oriel yn Abertawe, gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian. Derbyniodd fwrsariaeth gan Weithdy Argraffu Abertawe a chymerodd ran mewn prosiect i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Llyfrgell Glowyr De Cymru. Roedd ei phrint, “The Descent/Descent,” yn un o’r 20 print a ddewiswyd, ac mae’n cael ei arddangos ar hyn o bryd yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin.

Beirniad y gystadleuaeth oedd Jo Munton a Kate Morgan-Claire. Yn eu beirniadaeth, dywedodd y ddwy: “Roedd maes y cynigion yn eang, a’r safonau’n uchel, mae’n amlwg bod gan bawb gariad at eu maes creadigol a’r hyn sy’n eu hysbrydoli. Mae gan Wanesa ffocws mawr ar ei gwaith a sut yr hoffai ei ddatblygu. Mynegodd ei syniadau mor eglur fel ei bod yn hawdd gweld bod ganddi lawer o botensial fel artist. Roedd ei gallu i ddeffro’r emosiynau ac adrodd stori trwy ei delwedd o’r glöwr a’r caneri yn gwneud i’r gwaith hwn sefyll allan.”

Saffron Lewis, Enillydd Medal Gelf Eisteddfod yr Urdd 2024, Art Medal Winner

Mae Saffron Lewis, enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn fyfyriwr celf a dylunio yng Ngholeg Sir Benfro ac ar fin mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Celfyddyd Gain ym mis Medi.

Dywedodd: “Dechreuodd fy nghariad at y celfyddydau yn ifanc iawn ac ar hyd y blynyddoedd mae hyn wedi tyfu. Mae arbrofi gydag amryw o wahanol gyfryngau a phrosesau artistig yn cadw fy angerdd yn fyw.

“Mae testun fy ngwaith yn bennaf yn organig ac yn gynaliadwy. Rwy’n hoffi amsugno awyrgylch fy amgylchoedd i greu marciau egnïol o fewn fy ngwaith celf. Mae fy ymarfer yn cynnwys amrywiaeth o gyfryngau a rwy’n hoffi creu darnau diddorol ac unigryw sydd heb eu gweld o’r blaen; lle gall y sawl sy’n edrych ar y darn greu eu stori eu hunain.”

Rhoddir y Fedal Gelf er cof am Elain Heledd a fu’n ysbrydoli disgyblion Llanegryn a Llanbrynmair a rhoddir tlws yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc gan gwmni Arwerthwyr Celfyddyd Gain Rogers Jones.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle