Home Business Mae Gyrfa Cymru a Kier yn ymuno i ysbrydoli disgyblion Abertawe gydag...

Mae Gyrfa Cymru a Kier yn ymuno i ysbrydoli disgyblion Abertawe gydag ystafell ddosbarth awyr agored

0
441
Pupils look at building plans with a Kier representative
Advertisement

Ymunodd Kier â Gyrfa Cymru i adeiladu gofod dysgu awyr agored ar gyfer disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn Abertawe.

Digwyddodd yr adeiladu mawr yn yr ysgol yn gynharach eleni, gyda disgyblion yn cymryd rhan yn y gweithgaredd adeiladu ac yn dysgu gwybodaeth werthfawr am yrfaoedd.

Bu 43 o ddisgyblion ar draws blynyddoedd 9, 10 ac 11 yn gweithio’n agos gyda thîm Kier yn ystod yr wythnos, gan ddysgu am y prosesau adeiladu a chydweithio fel tîm gyda chymorth gan gontractwyr lleol Ian Williams Carpentry ac HD Carpentry.

Advertisement

Cafodd y disgyblion a gymerodd ran gyflwyniad iechyd a diogelwch llawn, cyn mynd ati i weithio ar adeiladu’r gofod awyr agored.

Buont yn dilyn cynlluniau a lluniadau ac yn cynnal gwiriadau peirianneg sifil sylfaenol ynghyd â gwaith sylfeini cychwynnol, gwaith saer a gwaith palmantu.

Roedd disgyblion hefyd yn gallu dysgu mwy am rolau o fewn y diwydiant adeiladu a datblygu sgiliau fel cyfathrebu a datrys problemau.

Pupils learning from contractors during the build

Meddai Harley Beavan, disgybl Blwyddyn 10 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, am ei brofiadau yn ystod y cyfnod adeiladu: “Mae’n dda achos ei fod yn rhywbeth gwahanol i ysgolion eraill. Rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle i gael y cyfleoedd hyn.”

Ychwanegodd Harvey Green, disgybl Blwyddyn 10: “Mae hyn yn rhywbeth all fynd ar ein CVs ac mae’n dangos ein bod ni wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith.”

Dywedodd Simon Davies, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe: “Rwy’n credu bod datblygu partneriaethau trwy Gyrfa Cymru gyda chwmnïau fel Kier yn allweddol i ni fel ysgol.

“Mae gennym ni ddigonedd o ddisgyblion yma sydd eisiau ac angen y profiadau gwaith bywyd go iawn hyn ac rydym yn hynod ddiolchgar bod Kier wedi gallu cefnogi’r prosiect hwn.

“Mae’n golygu llawer iawn i’n disgyblion – yn fechgyn a merched – sydd wedi elwa ar fod yn rhan o hyn a gweld sut brofiad yw cael profiad gwaith go iawn o’r diwydiant adeiladu.”

Dywedodd Bobbie Dorward, Cynghorydd Cyswllt Busnes yn Gyrfa Cymru, a helpodd i hwyluso’r digwyddiad: “Roedd yn wych gweld cynifer o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn cyfle mor gyffrous i ddysgu mwy am y byd adeiladu.

“Yn ogystal â darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i holl ddisgyblion yr ysgol, bu’r gwaith adeiladu yn gymorth i ysbrydoli ac ysgogi disgyblion a allai fod eisiau ystyried gyrfa mewn adeiladu neu feysydd cysylltiedig.

“Mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith fel hyn yn annog pobl ifanc i feddwl am eu dyfodol, yn ogystal â’u grymuso â gwybodaeth a mewnwelediad i wneud penderfyniadau gwybodus am eu camau nesaf.”

Dywedodd Jason Taylor, cyfarwyddwr rhanbarthol yn Kier Construction Western & Wales: “Mae gweithio ochr yn ochr â Gyrfa Cymru gydag Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ar y prosiect hwn wedi bod yn bleser.

“Roedd y myfyrwyr a ymunodd â ni i adeiladu’r gofod dysgu awyr agored hwn yn dangos digonedd o frwdfrydedd a pharodrwydd gwirioneddol i ddysgu mwy am ein gwaith.

“Rydym yn edrych ymlaen at wylio’r unigolion gwych hyn yn datblygu ac yn sefydlu eu hunain yn y diwydiant adeiladu.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Gyrfa Cymru gefnogi eich busnes neu ysgol i helpu i ddarparu addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith i bobl ifanc, ewch i wefan Gyrfa Cymru neu cysylltwch â cyswlltcyflogwyr@gyrfacymru.llyw.cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle