Home Charity Dod â’r Ifanc a’r Ifanc yn eu Calon ynghyd

Dod â’r Ifanc a’r Ifanc yn eu Calon ynghyd

0
416
Llun: Plant o Ysgol Gynradd Rhiwbeina gyda'u hymwelwyr o sesiwn leol Goldies Cymru gyda Andy Roberts, arweinydd sesiwn Goldies, ar y tu blaen.
Advertisement

Bydd plant ysgol gynradd yn croesawu pobl hŷn o’u cymunedau lleol i’r ysgol wrth i brosiect newydd sy’n pontio’r cenedlaethau ddechrau ledled Cymru. Fe’i cefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Ers ei lansio wyth mlynedd yn ôl, mae Elusen Golden Oldies wedi dod â chaneuon a gwenau i bobl hŷn ac ynysig ar draws De Cymru. Caiff y sesiynau hyn eu cynnal mewn llyfrgelloedd, ystafelloedd cymunedol a neuaddau eglwys ac mae bellach dros 60 sesiwn a gaiff eu harwain gan arweinwyr llawrydd ymroddedig.

Cafodd yr elusen hefyd lwyddiant sylweddol gyda rhaglenni cysylltiedig ag ysgolion cynradd, gan ennill y Categori Addysg pwysig yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2018 a gyflwynwyd gan Katherine Jenkins.

Advertisement

Daeth 60 o blant o Ysgol Gynradd Rhiwbeina ynghyd â 30 o bobl hŷn sy’n mynychu sesiwn Goldies Rhiwbeina ynghyd mewn ysgol i lansio’r prosiect newydd yn ddiweddar.

Mae’r elusen wedi cynhyrchu canllawiau i’r prosiect, yn Gymraeg a Saesneg, sydd ar gael ar gyfer athrawon ysgol a hoffai wybod mwy. Dylai hyn, a phob ymholiad yn ymwneud ag ef, fynd at Cheryl Davies, Arweinydd Rhaglen Goldies Cymru, neu ffonio 07860 944410.

www.goldiescymru.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle