Home Newyddion Lle “Pleidlais dros obaith yw pleidlais dros Blaid Cymru” – Adam Price yn...

“Pleidlais dros obaith yw pleidlais dros Blaid Cymru” – Adam Price yn ysgogi cefnogwyr ar drothwy etholiad y Senedd

0
760
Advertisement

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi nodi noswyl Etholiad y Senedd trwy ddadlau bod “pleidlais dros Blaid yn bleidlais dros obaith” wrth i Gymru baratoi i fynd i’r polau.

Dywedodd Adam Price fod cred Plaid Cymru yng ngallu Cymru i ddatrys ei phroblemau ei hun yn wahanol iawn i Lafur a’r Torïaid y mae eu hagwedd nhw bob amser yn rhoi San Steffan gerbron Cymru.

Advertisement

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru fod “rhaglen drawsnewidiol llywodraeth” ei blaid yn adlewyrchu graddfa’r newid a’r uchelgais sy’n ofynnol i ailadeiladu economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar ôl pandemig Covid.

Wrth siarad ar drothwy Etholiad y Senedd, dywedodd Adam Price:

“Yn yr etholiad hwn yn fwy nag unrhyw un arall, mae pleidlais i Blaid Cymru yn bleidlais dros obaith.

“Rydyn ni’n gwrthod credu bod unrhyw beth israddol am Gymru sy’n golygu na allwn ni ffynnu fel cenhedloedd annibynnol eraill ledled y byd.

“Mewn cyferbyniad ag agwedd anobeithiol Llafur a’r Torïaid a’u penderfyniad i roi San Steffan gerbron Cymru bob tro, rydym yn credu yng ngallu ein cenedl i ddatrys ei phroblemau ei hun.

“Mae pandemig Covid wedi gofyn gymaint ohonom mewn cymaint o ffyrdd. Mwy o garedigrwydd, mwy o amynedd, mwy o gryfder, a mwy o arloesi.

“Nawr yw’r amser i ddangos mwy o uchelgais nag erioed o’r blaen i sicrhau ein bod yn cwrdd â’r her o ailadeiladu ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus.

“Dyna pam mae Plaid Cymru yn cyflwyno rhaglen drawsnewidiol o’r fath i’r llywodraeth adlewyrchu graddfa’r newid a’r uchelgais sy’n ofynnol i lwyddo.

“O greu hyd at 60,000 o swyddi a darparu 50,000 o gartrefi cyhoeddus, o gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd a gofal plant am ddim o 24 mis, ac o hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff rheng flaen y GIG a thorri treth y cyngor ar gyfer yr aelwyd arferol, mae gweledigaeth Plaid Cymru yn rhoi gobaith.

“Gobaith am ddyfodol gwell, dyfodol tecach, a dyfodol lle gall ein cenedl a phawb sy’n ei galw’n gartref gyflawni eu potensial.

“Nid oes unrhyw beth na allwn ei gyflawni gyda’n gilydd, a gall y siwrnai honno ddechrau yfory gyda phleidlais dros Plaid Cymru, a pleidlais dros obaith.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle