Home Careers Wales Cydnabyddiaeth gwobr genedlaethol i offeryn Swyddi Dyfodol Cymru Gyrfa Cymru

Cydnabyddiaeth gwobr genedlaethol i offeryn Swyddi Dyfodol Cymru Gyrfa Cymru

1
37
Advertisement

Mae Gyrfa Cymru wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol gan y Sefydliad Datblygu Gyrfaoedd (CDI) am ei phlatfform gwybodaeth am y farchnad lafur arloesol, Swyddi Dyfodol Cymru.

Mae’r offeryn dwyieithog wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori “Cynnyrch, Adnodd neu Dechnoleg Arloesol”, sy’n cydnabod cynhyrchion, adnoddau a thechnolegau newydd sydd wedi cael effaith sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Swyddi Dyfodol Cymru yn helpu cwsmeriaid, ymarferwyr gyrfaoedd a rhanddeiliaid i ddeall cyfleoedd cyflogaeth presennol ac yn y dyfodol ledled Cymru. Mae’r platfform yn trawsnewid gwybodaeth gymhleth am y farchnad lafur yn wybodaeth hygyrch a hawdd ei defnyddio, gan ddarparu mewnwelediadau ar draws 16 diwydiant allweddol a phedwar rhanbarth yng Nghymru.

Advertisement

Wedi’i ddatblygu gan Gyrfa Cymru gan ddefnyddio data am y farchnad lafur gan Lightcast, mae Swyddi Dyfodol Cymru yn helpu pobl i archwilio opsiynau gyrfa a gwneud dewisiadau gwybodus am eu dyfodol. Mae hefyd yn ategu cynghorwyr gyrfaoedd, athrawon a phartneriaid eraill drwy ddarparu gwybodaeth gyfoes am swyddi, sgiliau a diwydiannau ledled Cymru.

Mae’r offeryn yn caniatáu i ddefnyddwyr archwilio cyfleoedd yn eu hardal leol a gweld ble disgwylir galw yn y dyfodol. Ers ei lansio, mae wedi dod yn adnodd gwerthfawr, gan helpu mwy o bobl i gael mynediad at wybodaeth am y farchnad lafur a’i deall.

Yn Ysgol Maesteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae’r athrawes astudiaethau busnes Porsha Brooks yn defnyddio Swyddi Dyfodol Cymru i ddod â gwybodaeth go iawn am y farchnad lafur i’r ystafell ddosbarth er mwyn ategu ei gwersi.

Mae profiad Porsha yn dangos sut y gall yr offeryn helpu athrawon i gysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth â chyfleoedd gyrfa presennol a chyfleoedd yn y dyfodol. Mae hi’n ei ddefnyddio i ategu pynciau, gan gynnwys tueddiadau economaidd, newidiadau mewn diwydiannau a chynaliadwyedd, wrth annog dysgwyr i archwilio gwybodaeth yn annibynnol a meddwl yn ehangach am yrfaoedd a lleoliadau.

Dywedodd Porsha: “Mae’n adnodd defnyddiol iawn, yn enwedig mewn perthynas â’n cwricwlwm newydd. Mae angen i ddysgwyr ddeall diwydiannau sy’n tyfu, diwydiannau sy’n dirywio a lleoliadau sy’n newid.

“Mae’n ddefnyddiol cyfeirio disgyblion i’r adnodd a dweud, ‘Cymerwch gip arno.’Mae’n adnodd cynhwysfawr i ddod o hyd i wybodaeth.”

Dywedodd Nikki Lawrence, prif weithredwr Gyrfa Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod Swyddi Dyfodol Cymru wedi cael ei gydnabod gan y Sefydliad Datblygu Gyrfaoedd.

“Gall gwybodaeth am y farchnad lafur fod yn gymhleth ac yn anodd ei chael yn aml. Mae Swyddi Dyfodol Cymru yn casglu’r wybodaeth hon ac yn ei harddangos mewn ffordd glir, ddiddorol a dwyieithog, gan helpu pobl ledled Cymru i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

“Rydym yn hynod falch o’r tîm sy’n gyfrifol am ei ddatblygu ac yn falch o weld eu harloesedd yn cael ei gydnabod ar lwyfan cenedlaethol.”

Mae Gwobrau Datblygu Gyrfaoedd y DU yn dathlu rhagoriaeth ac arloesedd ar draws y sector datblygu gyrfaoedd yn y DU ac yn rhyngwladol.

Cyhoeddir yr enillwyr yng Nghynhadledd Genedlaethol y Sefydliad Datblygu Gyrfaoedd (CDI) ar 2 Rhagfyr yng Ngwesty’r Burlington yn Birmingham, lle bydd gweithwyr proffesiynol ym maes gyrfaoedd o bob cwr o’r sector yn ymgynnull i ddathlu cyflawniad a rhannu arferion gorau.

Archwiliwch Swyddi Dyfodol Cymru am ddim ar wefan Gyrfa Cymru yn Swyddi Dyfodol Cymru | Gyrfa Cymru i ddarganfod cyfleoedd gyrfa, diwydiannau sy’n tyfu a thueddiadau cyflogaeth y dyfodol ledled Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle

1 COMMENT

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here