Mae Plaid Cymru wedi gwneud apêl olaf i bleidleiswyr ar drothwy isetholiad Caerffili gan annog pawb sydd eisiau atal Reform UK i gefnogi Lindsay Whittle o Blaid Cymru.
Mae pôl a ryddhawyd yr wythnos diwethaf wedi dangos mai dim ond Plaid Cymru sydd ag unrhyw obaith o guro Reform UK yn isetholiad Caerffili, gyda’r blaid honno ar y blaen gyda 42%, ac yn agos at hynny Plaid Cymru gyda 38% o gyfran y bleidlais.
Mae Llafur wedi gostwng yn sylweddol o’u safle yn etholiad y Senedd yn 2021, gyda dim ond 12% o etholwyr Caerffili bellach yn bwriadu pleidleisio drostynt yn isetholiad yr wythnos hon – gan brofi eu bod allan o’r gystadleuaeth.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:
“Mae pobl yn dweud wrthym eu bod yn dod i’r Blaid yn eu miloedd oherwydd eu bod nhw eisiau ni, eu bod nhw eisiau gweld newid er gwell, ac am eu bod nhw eisiau atal Reform UK.
“Dim ond Plaid Cymru all guro Reform a dangosodd pôl etholaeth yr wythnos diwethaf yn glir ei bod hi’n ras dau geffyl rhwng y ddwy blaid, gyda Llafur yn drydydd ac felly ymhell ar ei hôl hi.
“Rydym yn gofyn i bob pleidleisiwr sydd eisiau atal Reform i roi eu pleidlais i Blaid Cymru y tro hwn.
Ychwanegodd ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle, ymgyrchydd lleol gydol oes,
“Dyma ein cymuned ni, ac nid ydym am adael i Reform ei rhannu. Rwyf wedi byw a gweithio yma ar hyd fy oes – rwy’n gwybod beth sy’n bwysig i bobl yng Nghaerffili.
“Mae Llafur allan o’r ras. Dim ond Plaid all atal Reform a sicrhau bod gan Gaerffili lais cryf yn y Senedd – rhywun a fydd yn ymladd dros gyllid teg i Gymru, yn sefyll dros ein cymunedau, ac yn cyflawni pethau dros bobl leol.
“Mae pobl yn fy adnabod. Maen nhw’n gwybod y byddaf yn ymladd dros ein cymuned a gallant ymddiried yn Plaid Cymru i roi Cymru yn gyntaf, bob tro.”
“Os ydych chi eisiau anfon neges at Starmer, ethol pencampwr lleol cryf, ac atal Reform, yna pleidleisiwch dros Blaid Cymru yfory. Mae’n ras agos a bydd pob pleidlais yn cyfrif.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle













