Mae cystadleuwyr yn galw ar eu hetholwyr am gefnogaeth wrth i’r gystadleuaeth wleidyddol boblogaidd gyrraedd Caerdydd
Ddydd Iau 23 Mai, bydd Aelodau o’r Senedd a’u cŵn yn cystadlu am y tro cyntaf i ennill y teitl mawreddog ‘Ci’r Flwyddyn Senedd Cymru’ 2024. Bydd y gystadleuaeth yn dilyn ôl troed cystadlaethau poblogaidd Ci’r Flwyddyn San Steffan a Chi’r Flwyddyn Holyrood.
Bydd cŵn o bob siâp a maint, beth bynnag fo’u brîd yn heidio i Barc Brittania yng Nghaerdydd i ddangos eu doniau, a bydd yr Aelodau o’r Senedd sy’n berchen arnynt yn cystadlu i weld pwy fydd yn cael ei goroni’n “Top Dog.”
Mae Ci’r Flwyddyn Senedd Cymru, sy’n cael ei drefnu ar y cyd gan y Kennel Club a’r Dogs Trust, yn dathlu’r berthynas unigryw rhwng cŵn a’u perchnogion ac yn cynnig cyfle i Aelodau o’r Senedd i ddangos campau eu cymdeithion bach ffyddlon.
Dyma restr o gystadleuwyr 2024:

- Jane Dodds, AS y Democratiaid Rhyddfrydol dros Canolbarth a Gorllewin Cymru a’i Milgi, Wanda

- Jack Sargeant, AS Llafur dros Alun a Glannau Dyfrdwy a’i Cavalier King Charlies Spaniel, Coco

- James Evans, AS Ceidwadol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed a’i Cocker Spaniel, Bonnie

- Janet Finch-Saunders, AS Ceidwadol Aberconwy a’i Chi Defaid Cymreig, Alfie

- Darren Millar, AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd a’i Whippet, Blue.
Mae’r Aelodau o’r Senedd sy’n cymryd rhan gyda’u cŵn yn galw ar eu cefnogwyr i bleidleisio drostynt ar-lein, mewn ymgais i ennill y bleidlais ‘Gi-hoeddus’! Bydd beirniadu ychwanegol ar y diwrnod yn chwilio am gŵn da â phersonoliaethau atyniadol, a bydd un ci lwcus yn ennill y fraint seneddol o gipio’r teitl ‘Ci’r Flwyddyn Senedd Cymru 2024’.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ASau sy’n cystadlu a’u cŵn, ac i bleidleisio ar gyfer Ci’r Flwyddyn Senedd Cymru ewch i www.thekennelclub.org.uk/sdoty .
Yn ogystal â dathlu’r pleser o fod yng nghwmni cŵn, bydd Ci’r Flwyddyn Senedd Cymru hefyd yn canolbwyntio ar hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn, gan sicrhau bod perchnogion yn cydnabod y cyfrifoldeb sydd ganddynt i sicrhau bod eu hanifail anwes yn aelod cadarnhaol o’r gymuned a’u bod yn gallu byw bywyd hapus ac iach. Mae’r digwyddiad hefyd yn annog deialog agored ar faterion lles cŵn, yn ogystal â rhoi cyfle i ASau gwrdd ag arbenigwyr i drafod pob agwedd yn ymwneud â chŵn.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle








