Home Swansea news Prifysgol Abertawe’n helpu i weithgynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig solar cynaliadwy’n lleol yn Affrica,...

Prifysgol Abertawe’n helpu i weithgynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig solar cynaliadwy’n lleol yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a’r Môr Tawel

0
528
An example of next-generation solar: a fully printed perovskite module developed by SPECIFIC IKC at Swansea University. Credit: SPECIFIC Innovation and Knowledge Centre.
Advertisement

Mae cydweithrediad newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe’n ceisio helpu gwledydd yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a’r Môr Tawel i gynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig solar cynaliadwy’n lleol ar raddfa fwy.

Gan adeiladu ar rwydwaith SUNRISE y Brifysgol, mae prosiect TEA at SUNRISE yn gydweithrediad rhwng prifysgolion a busnesau ledled y DU, Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a’r Môr Tawel.

Researchers from Professor Satish Patil’s group at IISc Bangalore installing a solar-powered microgrid at a school in Tamilnadu, India, as part of Swansea University’s SUNRISE project. The goal of SUNRIS

Mae’r prosiect yn rhan o blatfform TEA (Trawsnewid Mynediad at Ynni) a ariennir gan lywodraeth y DU, sy’n cefnogi’r technolegau, y modelau busnes a’r sgiliau angenrheidiol i drawsnewid i ynni glân mewn modd cynhwysol.

Advertisement

Mae TEA at SUNRISE yn ategu rhagamcaniad yr IEA (Asiantaeth Ynni Ryngwladol) y caiff 125 gigawatt o fodiwlau ffotofoltäig eu gosod yn Affrica cyn 2030.

Researchers from Professor Satish Patil’s group at IISc Bangalore installing a solar-powered microgrid at a school in Tamilnadu, India, as part of Swansea University’s SUNRISE project. The goal of SUNRIS

Bydd y prosiect yn adeiladu ar y perthnasoedd a sefydlwyd gan SUNRISE, gan ymestyn y tu hwnt i Affrica ac India i nodi manteision y genhedlaeth nesaf o dechnolegau solar ledled De’r Byd.

Gyda digonedd o ynni solar a marchnadoedd lleol mawr, bydd TEA at SUNRISE yn archwilio gallu gwledydd yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a’r Môr Tawel i greu canolfannau gweithgynhyrchu ar gyfer modiwlau ffotofoltäig effeithlon a rhad.

Meddai Iain Meager, Cyfarwyddwr Arloesi yn yr Ymddiriedolaeth Garbon: “Mae cydweithredu’n hollbwysig er mwyn cyflymu’r broses o drawsnewid i ynni glân mewn modd teg a chynhwysol. Drwy gydweithio â rhanddeiliaid lleol yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a’r Môr Tawel, bydd TEA at SUNRISE yn hybu’r dulliau cyfnewid gwybodaeth a dysgu sy’n angenrheidiol er mwyn cyflymu’r broses o weithgynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig cynaliadwy ar raddfa fwy’n lleol. Yn ogystal â helpu i feithrin datblygiad economaidd, bydd hyn hefyd yn lleihau effaith amgylcheddol cynhyrchu ynni ffotofoltäig.”

Honore Basazababo of Great Lakes Energy Ltd holding a non-glass silicon solar module. The module was being installed as part of an Innovate UK Energy Catalyst project with Solapak Development Ltd and Heifer International to improve energy access at a Milk Collection Centre in Kigali, Rwanda. Credit: Solapak Development Ltd.

Er bod ynni ffotofoltäig yn un o’r technolegau ynni sy’n tyfu gyflymaf yn fyd-eang, mae gwendidau gan ddeunyddiau ffotofoltäig silicon, sy’n teyrnasu yn y farchnad ar hyn o bryd.

Mae’r dull gweithgynhyrchu’n galw am fuddsoddiad cychwynnol sylweddol a defnydd helaeth o

ddeunyddiau ac ynni critigol. Mae hefyd yn arwain at wastraff sylweddol pan gaiff ei ddefnyddio ar raddfa fawr.

Ar ben hynny, ni chaiff gweithgynhyrchu modiwlau silicon ei ddosbarthu’n fyd-eang ac mae’n gysylltiedig â phroblemau amgylcheddol, economaidd a moesegol sy’n ymwneud â phrosesau mwyngloddio a defnyddio trydan a gynhyrchir gan lo.

Mewn ymateb i’r heriau hyn, bydd TEA at SUNRISE yn gosod pwyslais cryf ar sicrhau y caiff technolegau eu dylunio ar gyfer economi gylchol i leihau gwastraff a defnyddio llai o ddeunyddiau critigol.

An example of next-generation solar: fully roll-to-roll printed perovskite solar cell developed by SPECIFIC IKC at Swansea University. Credit: SPECIFIC Innovation and Knowledge Centre.

Meddai arweinydd y prosiect, Dr Mark Spratt, o Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae TEA at SUNRISE yn adeiladu ar rwydwaith hynod lwyddiannus SUNRISE, gan ehangu datblygiad y genhedlaeth nesaf o ddeunyddiau ffotofoltäig yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a’r Môr Tawel. Wrth drawsnewid yn deg i ynni adnewyddadwy, gall y technolegau newydd hyn wneud cyfraniad hollbwysig at sicrhau y darperir ynni mewn modd cyfiawn, heb y problemau amgylcheddol a moesegol sy’n gysylltiedig â gweithgynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig ar hyn o bryd.”

Mae’r genhedlaeth nesaf hon o ddeunyddiau solar hefyd yn cynnig cyfle unigryw i’w dylunio fel y bydd yn hawdd eu hailddefnyddio a’u hailweithgynhyrchu o’r cychwyn cyntaf, gan y bydd gweithgynhyrchu’n lleol yn lleihau costau logisteg yn ogystal â chreu swyddi a defnyddio ffynonellau ynni â llai o garbon.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle