Home Neath Port Talbot Digwyddiad Gwerthfawrogi twymgalon i ofalwyr maeth gweithgar Castell-nedd Port Talbot

Digwyddiad Gwerthfawrogi twymgalon i ofalwyr maeth gweithgar Castell-nedd Port Talbot

0
531
Carers
Advertisement

Mae gofalwyr maeth o bob rhan o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael eu hanrhydeddu am eu gwaith hollbwysig mewn Digwyddiad Gwerthfawrogi a gynhaliwyd yng Ngwesty Glyn Clydach yn Abaty Nedd.

Un o uchafbwyntiau’r digwyddiad oedd cyflwyno tystysgrifau i ofalwyr maeth am eu gwasanaeth ymroddedig dros 1, 5, 10, 15 ac 20 mlynedd. Cafodd y tystysgrifau eu cyflwyno’n bersonol gan y Cyngh. Sian Harris, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd.

Dywedodd y Cyngh. Harris: “Bob blwyddyn, caiff digwyddiad ei gynnal i ddathlu a chydnabod gwasanaeth aelodau Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot. Eleni, yn dilyn trafodaethau ac adborth gan ofalwyr, penderfynwyd ailenwi’r seremoni wobrwyo, ac o hyn ymlaen bydd yn cael ei galw’n ‘Ddigwyddiad Gwerthfawrogi’.

Advertisement

“Bydd hyn yn sicrhau bod pobl yn deall ac yn gweld bod hwn yn ddigwyddiad ar gyfer ein holl ofalwyr maeth anhygoel, ac yn gyfle i’r gwasanaeth ddiolch iddynt am bopeth a wnânt dros blant a phobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot, a thu hwnt weithiau.

“Hoffem gydnabod cyfraniadau amhrisiadwy ein gofalwyr maeth yng Nghastell-nedd Port Talbot a diolch o galon iddynt am eu hymroddiad diwyro i’r plant a’r bobl ifanc yn eu gofal.”

Yn y digwyddiad, gofynnwyd i Cheryl a Christopher, sydd wedi bod yn maethu ers dros 10 mlynedd, am eu barn ar y digwyddiad a’u degawd o ofalu – a gofynnwyd iddynt hefyd beth y byddent yn ei ddweud wrth unrhyw un sy’n ystyried maethu.

Carers

Dywedodd Cheryl: “A dweud y gwir, mae wedi bod yn hyfryd dod ynghyd â gofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol eraill mewn awyrgylch anffurfiol a hamddenol. Fodd bynnag, mae’n anodd ac yn ddi-baid ond, pan fyddwch chi’n gweld y gwahaniaeth yn y plant ers iddyn nhw ddod atoch chi ac yna os byddan nhw’n gadael, o ran eu hyder a’u galluoedd, mae’n anhygoel ac mae hynny ynddo’i hun yn ei wneud yn werth yr ymdrech.”

Ydych chi wedi ystyried maethu? Ffoniwch y tîm ar 01639 685866, neu e-bostiwch fostering@npt.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth. Neu, ewch i https://cnpt.maethucymru.llyw.cymru/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle