Cefnogwyd Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod yn ymwneud ag adolygu rheoliadau chwarel i wella diogelwch cymunedau gan y Senedd, gyda Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adolygu polisi cynllunio i chwareli.
Cyflwynwyd y ddadl gan AS Plaid Cymru Kiera Marshall yn dilyn cartrefi yn ardal Gwaled y Garth dioddef o lifogydd yng Ngorffennaf 2026, wedi’u hachosi gan ffrwydrai mewn Chwarel Ffynnon Taf.
Wnaeth Kiera Marshall cynnig adolygiad o’r mesurau diogelwch presennol i’r amgylchedd, bioamrywiaeth ac iechyd cyhoeddus. Roedd y cynnig hefyd yn gal war Lywodraeth Cymru i adolygu a chryfhau fframwaith cynllunio yn ymwneud a chwareli yng Nghymru – gan gynnwys edrych ar gynyddu’r parth clustogi rhwng aneddiadau a chwareli.
Wrth ymateb i’r galwadau ar ddydd Mercher (11 Tachwedd 2026), wnaeth y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio cadarnhau bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn adolygu polisi presennol ar chwareli mewn cydnabyddiaeth o amcanion y llywodraeth i “amddiffyn cymunedau ond galluogi datblygu cynaliadwy.”
Croesawodd Ms Marshall ymrwymiad y llywodraeth i adolygu polisi chwareli.
Meddai Aelod Senedd Plaid Cymru dros Gaerdydd Penarth, Kiera Marshall:
“Wnaeth yr hyn a ddigwyddodd yng Ngwaelod y Garth dros yr haf godi cwestiynau difrifol am y system gynllunio, a ni ddylai byth ddigwydd eto.
“Tu ôl i’r cynnig yma oedd pobl a chollodd eu cartrefi, ei diogelwch a thawelwch meddwl.
“Fy ngobaith oedd y byddai’r digwyddiad yma yn arwain at newid, gan ddechrau gydag adolygu rheolau dyddiedig diogelwch chwarel.
“Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu’r polisi o amgylch chwareli yn gam bwysig cyntaf ymlaen, ac un i’w groesawu, i ddiogelu cymunedau’n well rhag effeithiau chwarela a ffrwydro.”
Yn ystod y ddadl, meddai’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio:
“Rôl y system cynllunio ydy cydbwyso angen cymdeithas am fwynau yn erbyn diogelu amwynder a lles cymunedol.
“Dwi yn ymrwymo heddiw i archwilio’r materion sydd wedi cael eu codi yn y cynnig deddfwriaethol a’r materion sydd wedi cael eu codi heddiw gan yr Aelodau. Mi fyddaf yn gofyn i’m swyddogion gynnal galwad am dystiolaeth i archwilio’r mater yma’n fanylach.”
“Fe allai’r ymarfer hwnnw, yr ymarfer galw am dystiolaeth, lywio newidiadau i bolisi chwareli heb fod angen deddfwriaeth sylfaenol, gan gydnabod amcanion y Llywodraeth hon a fy hun fel Gweinidog y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am gynllunio, sef amddiffyn cymunedau ond galluogi datblygu cynaliadwy.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle










https://southwaleschronicle.co.uk/blog/2026/11/13/ymrwymiad-llywodraeth-cymru-i-adolygu-rheolau-dyddiedig-chwareli-yn-gam-pwysig-i-ddiogelu-cymunedaun-well-kiera-marshall-as/