
- Mae dros £91mil wedi’i rannu rhwng 153 o gymunedau lleol yng Nghymru a Sir Henffordd ers mis Ionawr 2023.
- Treuliwyd 210 o oriau gwirfoddoli yn cefnogi 23 o grwpiau cymunedol ac elusennau.
- Nod y prosiectau a gefnogir gan Dŵr Cymru yw darparu cyfraniadau ystyrlon tuag at gymunedau lleol a’r amgylchedd.
Yn 2023 roedd Dŵr Cymru yn falch iawn o rannu dros £91mil i 153 o grwpiau a sefydliadau lleol, helpodd y cyfraniadau hyn i ymgymryd â phrosiectau arloesol yn eu cymuned.
Mae cyfraniadau cronfa gymunedol Dŵr Cymru wedi galluogi grwpiau cymunedol i brynu offer hanfodol newydd, mae ysgolion wedi gallu datblygu ardaloedd dysgu awyr agored ac mae grwpiau chwaraeon wedi gallu prynu cit sydd ei angen arnynt i gadw eu clybiau i fynd.
Mae’r cyllid hefyd wedi cefnogi nifer o brosiectau sy’n helpu i warchod a gwella’r amgylchedd trwy eu mentrau bioamrywiaeth. Mae hyn wedi cynnwys annog bywyd gwyllt mewn cymunedau lleol, gosod cartrefi pryfed ac ystlumod a darparu cyllid i greu ardaloedd dysgu allanol.
Mae’r cwmni nid-er-elw hefyd wedi gwella’r cymorth y maent yn ei gynnig mewn cymunedau lleol gyda dros 210 awr o oriau gwirfoddoli yn digwydd dros 23 o weithgareddau gwirfoddoli drwy gydol 2023.
Mae’r gweithgareddau gwirfoddoli yn amrywio o godi sbwriel, cefnogi canolfan achub anifeiliaid, plannu coed a garddio. Mae’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar gael effaith gadarnhaol mewn cymunedau a’r amgylchedd.
Fe aeth Dŵr Cymru a’i bartneriaid contract Gwasanaethau Dŵr Morrison i gynnig gofal a sylw ychwanegol i anifeiliaid sy’n aros i gael eu hailgartrefu yn RSPCA Llys Nini, ym Mhenllergaer, Abertawe.

Fel ffordd o roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, torchodd y grŵp o weithwyr eu llewys a helpu’r elusen anifeiliaid gydag amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys mynd â chŵn am dro, cymdeithasu cathod a garddio yn y ddrysfa helyg y lleoliad.
Roedd cronfa gymunedol Dŵr Cymru yn falch o gefnogi’r gost o adeiladu Caffi Nini yn 2023 gyda £500 sydd wedi cael effaith hanfodol ar allu’r ganolfan i helpu i gynhyrchu incwm y mae mawr ei angen.
Dywedodd Debbie Davies, Rheolwr RSPCA Llys Nini: “Roeddem yn falch iawn o groesawu tîm o Dŵr Cymru ar ddiwrnod gwirfoddol corfforaethol yn ein canolfan anifeiliaid ym Mhenllergaer, Abertawe.
“Roedd y tîm yn weithgar, o’r funud y cyrhaeddon nhw roedden nhw’n awyddus i dorchi eu llewys! Tasg gyntaf y diwrnod oedd mynd â chŵn am dro, roedd ein cŵn wrth eu bodd yn cyfarfod â phawb, roedd cael y teithiau cerdded ac amser ychwanegol allan o’r cytiau cŵn yn golygu’r byd iddyn nhw. Y dasg nesaf oedd cymdeithasu cathod, unwaith eto roedd y tîm yn rhagorol”
Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol Dŵr Cymru: “Rydym yn falch o fod wedi cefnogi cymaint o achosion anhygoel trwy gydol 2023. Fel sefydliad nid-er-elw, mae ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn. Rydym eisoes yn chwarae rhan allweddol yn ein cymunedau drwy ddarparu’r gwasanaethau mwyaf hanfodol – dŵr yfed glân a thrin dŵr gwastraff cyn ei ddychwelyd yn ôl i’r amgylchedd ac rydym yn falch iawn o gefnogi grwpiau lleol fel hyn.”‘
Dysgwch fwy am gronfa gymunedol Dŵr Cymru a chymorth yn Dŵrcymru.com/cronfagymunedol
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The South Wales Chronicle












